Sut allwch chi helpu

Gall adrodd am y bywyd gwyllt morol a welwch wneud cyfraniad mawr at reoli’r Safle Morol Ewropeaidd (SME). Mae SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cwmpasu ardal fawr ac fel gyda’r amgylchedd morol yn gyffredinol, mae yna lawer o bethau nad ydym yn eu gwybod o hyd am y bywyd morol sy’n byw yma. Os ydych chi’n mynd o gwmpas ar yr arfordir, ar y môr neu o dan y môr, gallwch chi helpu i wella ein dealltwriaeth o fywyd gwyllt yr ardal hon drwy roi gwybod i ni am yr hyn rydych chi’n ei ddarganfod.

Anfonwch unrhyw luniau neu adroddiadau diddorol drwy e-bost at cbeems.officer@gmail.com neu drwy’r dudalen gyswllt.

Dyma restr o brosiectau a mentrau eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt:

  • Adroddwch am yr hyn a welwch ar y môr a’r arfordir:
          – Yn ne-ddwyrain Cymru (Abertawe/Gŵyr) yma.
          – Yng ngorllewin Cymru (Sir Gâr a Sir Benfro) yma.
  • Adroddwch am fywyd gwyllt morol sydd wedi’i anafu (morloi, dolffiniaid, morfilod, llamhidyddion) yma.
  • Adroddwch am forfilod neu grwbanod môr sy’n sownd (byw a marw) yma.
  • Adroddwch am forwellt a welwyd gennych yma.
  • Adroddwch am unrhyw rywogaethau morol estron ac ymledol yma.
  • Adroddwch am godau wyau siarc a morgath yma.