Dolydd arfor Iwerydd

Mae morfeydd heli yn datblygu rhwng yr arwyddion d诺r uchel a d诺r isel cymedrig mewn ardaloedd lle ceir gwaddodion meddal (llaid neu dywod m芒n) sydd wedi’u cysgodi’n gymharol rhag effaith y tonnau. Rhaid i lystyfiant morfa heli allu goddef halen (haloffytig) er mwyn gallu goroesi cael eu gorchuddio gan y llanwau. Mae gallu goddef d诺r heli yn creu cymunedau o blanhigion mewn cylchfaoedd gwahanol yn y morfa heli. Mae angen i’r planhigion hynny sy’n agosach at dd诺r bas fod yn fwy goddefgar o dd诺r heli, gan eu bod yn treulio mwy o amser dan orchudd y llanw.
Mae dolydd heli’r Iwerydd yn ffurfio rhannau canol ac uchaf morfeydd heli. Yn y rhannau hyn, mae’r llystyfiant yn parhau i gael ei orchuddio gan y llanw, ond yn llai aml ac am gyfnodau byrrach. Mae dol heli’r Iwerydd, a elwir hefyd yn forfa heli yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cynnwys morfeydd heli Cilfach Tywyn, Aberoedd Llwchwr a’r Tair Afon.
Mae ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cynnwys y morfa heli mwyaf yng Nghymru. Yn 2020-2021, roedd cyfanswm y morfa heli yn mesur 2914.41 hecterw, pryd y cafodd ei fesur gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r ardal fwyaf o Ddolydd Heli鈥檙 Iwerydd yng Nghilfach Tywyn, rhwng Llanrhidian a Landim么r, a鈥檙 ail fwyaf ym Mhenclawdd ac aber y Llwchwr. O ran aberoedd y Tair Afon, aber y Gwendraeth yw鈥檙 ardal fwyaf o ddolydd heli鈥檙 Iwerydd, aber y Taf yw鈥檙 ail fwyaf ac aber y Tywi yw鈥檙 drydedd.
Mae gan forfeydd heli helaeth aberoedd Bae Caerfyrddin ddilyniant cyflawn o lystyfiant morfa heli, o鈥檙 llystyfiant arloesi cyntaf hyd at drawsnewidiadau yn rhan uchaf y morfa heli. Mae’r ardal hefyd yn bwysig o ran y trawsnewid o forfa heli i dwyni tywod ac i lystyfiant d诺r croyw a daearol. Mae’r rhain yn nodweddion pwysig o’r morfeydd heli lleol ac o werth mawr o ran eu bioamrywiaeth.
Mae morfeydd heli yn adnodd pwysig i adar hirgoes ac adar gwyllt. Maent yn gweithredu fel llochesi pan mae llanw uchel i adar sy’n bwydo ar wastadeddau llaid cyfagos, fel safleoedd bridio i adar hirgoes, gwylanod a m么r-wenoliaid ac fel ffynhonnell fwyd i olfanod, yn enwedig yn yr hydref a’r gaeaf. Yn y gaeaf, defnyddir morfeydd heli sy’n cael eu pori fel tiroedd bwydo gan heidiau mawr o hwyaid gwyllt a gwyddau.