Bywyd gwyllt
Beth sy’n arbennig?
Mae Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn diogelu bioamrywiaeth forol hanfodol yng Nghymru, gan gynnwys cynefinoedd sydd dan fygythiad a rhywogaethau sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd. Mae’r safle’n cynnal cynefinoedd adar o bwys rhyngwladol, gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod rhynglanwol cyfoethog a llwybrau mudo i bysgod.
Mae ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cwmpasu ardaloedd o f么r, arfordir ac aberoedd sy’n cynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd morol a bywyd gwyllt gwahanol, ac mae rhai ohonynt yn unigryw yng Nghymru.
Detholwyd ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd gan ei fod yn cynnwys enghreifftiau Ewropeaidd rhagorol o’r ‘nodweddion cadwraeth’ canlynol. Nodweddion cadwraeth neu nodweddion o ddiddordeb yw’r cynefinoedd a’r rhywogaethau y mae safle wedi’i ddynodi ar eu cyfer. Mae鈥檙 safle ACA hwn yn un arbennig o amrywiol ac mae鈥檔 cynnwys 6 math o gynefin Atodiad I y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a 5 rhywogaeth Atodiad II.
Y rhain yw:
Cynefinoedd
Aberoedd
Cilfachau a baeau mawr bas
Dolydd heli鈥檙 Iwerydd
Salicornia a phlanhigion eraill sy鈥檔 cytrefu mewn llaid a thywod
Gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod nad ydynt wedi’u gorchuddio gan dd诺r y m么r ar lanw isel
Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio fymryn drwy鈥檙 amser gan dd诺r y m么r
Rhywogaeth
Herlyn Alosa alosa
Gwangen Alosa fallax
Llysywen bendoll yr afon Lampetra fluviatilis
Llysywen bendoll y m么r Petromyzon marinus
Dyfrgi Ewrasiaidd Lutra lutra
Mae’r nodweddion wedi’u dosbarthu ledled yr ACA heb unrhyw nodwedd sengl yn meddiannu’r ACA gyfan ac mae鈥檙 nodweddion yn gorgyffwrdd mewn rhai lleoliadau.
Mae disgrifiad byr o bob nodwedd gadwraeth ar gael ar y wefan hon. Am fwy o fanylion, ewch i’r dudalen unigol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn casglu gwybodaeth am y nodweddion hyn o’r safle er mwyn ychwanegu at ein dealltwriaeth o sut maen nhw’n gwneud ac i helpu i nodi ac ymdrin ag unrhyw bwysau neu fygythiadau y gallent fod yn eu hwynebu. Gellir dod o hyd i rai adroddiadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Blaenoriaethau tystiolaeth forol ac arfordirol.
Mae’r wybodaeth hon yn helpu gydag adrodd ar asesiadau cyflwr dangosol. Mae adroddiadau 2025 ar gael yma.

