Prosiectau
Mae Swyddog SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cydweithio â gwahanol sefydliadau ar brosiectau i wella’r safle.
Cynorthwyir ac ategir rheolaeth SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd trwy gynnal a chymryd rhan mewn prosiectau ar y cyd sy’n mynd i’r afael â materion penodol a thrwy godi ymwybyddiaeth am y bywyd morol anhygoel sydd gennym yma. Mae rhai o’r prosiectau hyn yn cynnwys:
Partneriaeth Cymru ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AMG)
Mae SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn un o bum safle morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae’r pum safle hyn yn ffurfio Partneriaeth Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru ac maent yn cydweithio’n rheolaidd ar brosiectau ar y cyd ledled Cymru, megis arolygon dyfrgwn a phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion ar ansawdd dŵr. Y safleoedd eraill yw:
ACA Bae Ceredigion
ACA Sir Benfro Forol
ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
SME Aber Hafren
Prosiect Morwellt
Yn 2024, cynhaliwyd treialon plannu morwellt ar raddfa fach ar safle ym Mhorth Tywyn, Llanelli, yn dilyn asesiadau safle ac ymgysylltu â phobl leol, cynghorwyr amgylcheddol a sefydliadau.
Cymerwyd creiddiau corwellt y gamlas Zostera noltei o ddôl morwellt trwchus ac iach ger Llanelli. Yn ystod Hydref 2024, dangosodd y gwaith monitro adferiad iach yn y ddôl y cymerwyd y craidd ohoni.
Mynychodd Swyddog SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd a chynorthwyodd gyda phlannu creiddiau’r morwellt ym Mhorth Tywyn. Mae prosiectau pellach wedi’u cynllunio.
Gwybodaeth bellach:
https://www.projectseagrass.org/south-wales-project/
https://www.projectseagrass.org/projects/may-fieldwork-duplicate/
Prosiect SIARC
Gwaith allanol ysgolion
Mae Prosiect SIARC (‘Sharks Inspiring Action and Research with Communities’) yn gweithredu ledled Cymru, ond mae ymgysylltu â’r gymuned ac ymchwil wedi’u canolbwyntio ar ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sef ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Bu’r deg ysgol sy’n cymryd rhan (rhai cyfrwng Cymraeg a rhai cyfrwng Saesneg) sydd wedi’u lleoli ger ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cymryd rhan lawn yn rhaglen allanol Ysgolion Prosiect SIARC, gydag 11 dosbarth (yn cynnwys tua 400 o ddisgyblion) yn arddangos eu harddangosfeydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC).
Gwybodaeth bellach:
https://www.prosiectsiarc.com/ymgysylltu-ar-gymuned/
DNA amgylcheddol
Bu aelodau Prosiect SIARC yn cymryd samplau dŵr rheolaidd ledled ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, er mwyn ymchwilio i bresenoldeb a natur dymhorol elasmobranciaid yn y rhanbarth. Nodwyd wyth rhywogaeth wahanol o elasmobranciaid.
Gellir gweld y canlyniadau yn y papur hwn:
https://www.projectsiarc.com/wp-content/uploads/sites/33/2023/07/eDNA-eng.png







