Cefndir

Ynglŷn â’r safle

Dynodwyd Safle Morol Ewropeaidd (SME) Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn 2004 ac mae’n ardal warchodedig yn ne Cymru sy’n diogelu cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Mae SME Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cwmpasu ardal helaeth o tua 66,092.05 hectar.

Mae’r Safle Morol Ewropeaidd yn cynnwys:

  • Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Caerfyrddin ac Aberoedd
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bae Caerfyrddin
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safle Ramsar Cilfach Tywyn

Yn ogystal, dynodwyd ACA Dynesfeydd Môr Hafren ar gyfer Llamhidyddion ym mis Chwefror 2019. Mae’r ACA yn ymestyn ar draws y dynesfeydd gorllewinol i Fôr Hafren, o Fae Caerfyrddin yn Ne Cymru i arfordir gogleddol Dyfnaint a Chernyw.

Dewiswch ardal am ragor o wybodaeth

ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd

AGA Cilfach Tywyn

AGA Bae Caerfyrddin

ACA Dynesfeydd Môr Hafren

Pam fod y Safle Morol Ewropeaidd yn bwysig?

Mae amgylchedd morol iach yn hanfodol i’n bywydau bob dydd. Mae’n darparu ocsigen i ni anadlu, bwyd i’w fwyta a hyd yn oed yn helpu ein hiechyd meddwl. Rydym yn dysgu mwy bob dydd am werth y byd tanddwr hwn, ac am y manteision sydd iddo megis diogelu rhag llifogydd a diogelu ein harfordiroedd, defnydd fferyllol, ysbrydoli technoleg, amsugno a storio Carbon (atafaeliad Carbon).

Mae’r amgylchedd morol wedi bod yn gynhenid i’n bodolaeth ers canrifoedd ac o ganlyniad mae’n rhan hanfodol o’n diwylliant, ein heconomi, ein gorffennol a’n dyfodol. Mae wedi’i blethu i’n ffordd o fyw.

Mae’r SME yn cyfrannu tuag at gadwraeth bioamrywiaeth fyd-eang a cheir cydnabyddiaeth ryngwladol o bwysigrwydd nodweddion bywyd gwyllt y safle. Drwy ofalu am yr SME, rydyn ni nid yn unig yn cyflawni targedau a deddfwriaeth bioamrywiaeth ryngwladol a chenedlaethol y cytunwyd arnynt, rydym hefyd yn helpu i gynnal a chynyddu’r holl fuddion hynny sy’n gysylltiedig ag amgylchedd morol iach, nawr ac am genedlaethau i ddod.

Cadwraeth forol:

Ar y cyd, mae ACA ac AGA yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd o’r enw Natura 2000 sy’n cwmpasu’r Undeb Ewropeaidd. Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2020, nid yw’r DU yn rhan o rwydwaith Natura 2000, ond gellir parhau i alw’r safleoedd hyn yn Safleoedd Ewropeaidd neu, os ydynt yn safleoedd morol, gellir eu galw yn Safleoedd Morol Ewropeaidd (SME). Cyfeirir atynt bellach fel y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol. Mae ACA y DU yn parhau i gael eu hystyried yn rhan o’r Rhwydwaith Emerald o dan Gonfensiwn Bern.