Herlyn a gwangen

Pysgod tebyg i benwaig yw gwangod. Maent yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau pan fyddant yn oedolion, yn y m么r, ond maent yn silio mewn afonydd (neu, weithiau, ym mhen uchaf aberoedd) ar ddechrau’r haf. Ni ystyrir bod nifer yr herlod a’r gwangod yn sefydlog.
Mae’r herlyn Alosa alosa wedi’i ddynodi’n nodwedd gymhwysol o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin ac Aberoedd gan fod yr ardal yn cael ei hystyried yn llwybr mudo arfordirol neu’n faes bwydo pwysig, ac oherwydd bod y dalgylch i fyny’r afon (Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi) wedi cynnal poblogaeth silio sylweddol yn hanesyddol. Efallai bod afonydd perthnasol eraill sy’n cyfrannu at boblogaeth yr Ardal Cadwraeth Arbennig.
Ar hyn o bryd (2025) mae’r rhywogaeth wedi’i dosbarthu megis un Mewn Perygl Difrifol (tybir ei bod wedi diflannu) yng Nghymru.
Mae鈥檙 wangen Alosa fallax hefyd wedi’i dynodi’n nodwedd gymhwysol o ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd. Mae gwangod yn mudo trwy ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd i gyrraedd safleoedd silio yn ACA Afon Tywi, ac mae’n debygol eu bod nhw鈥檔 defnyddio dyfroedd arfordirol Bae Caerfyrddin ar gyfer bwydo, ac aber y Tair Afon ar gyfer ardaloedd meithrin. Efallai bod afonydd perthnasol eraill sy’n cyfrannu at boblogaeth yr ACA.