Rheolaeth

Rheolaeth y safle

Mae cynllun rheoli’r safle yn mynd i’r afael â bygythiadau i Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, sef ardal hanfodol i fywyd gwyllt, drwy arwain gweithredu ar y cyd i amddiffyn ei gynefinoedd a’i rywogaethau dynodedig.

Mae Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cynnwys ystod amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd sy’n arbennig, yn brin ac o dan fygythiad. Mae’r rhain yn rywogaethau a chynefinoedd y mae pob un ohonom yn elwa ohonynt mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae llawer o weithgarwch dynol o fewn y safle ac felly mae angen i reolwyr edrych ar y rhyngweithiadau rhwng pobl, ein hinsawdd sy’n newid a’n hamgylchedd naturiol, er mwyn amddiffyn y rhain a rhoi’r cyfle gorau iddynt ffynnu.

Mae llawer o sefydliadau sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros wneud hyn ac felly mae angen cydlynu eu gwaith i gael yr effaith orau.

Awdurdodau Cymwys a Pherthnasol

Awdurdodau Cymwys yw unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â rôl statudol yn y DU. Mae gan y sefydliadau a’r awdurdodau hyn gyfrifoldeb cyfreithiol i helpu i ddiogelu nodweddion yr ACA wrth ymgymryd â’u gwaith a thrwy hynny gyflawni amcanion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae awdurdodau perthnasol yn is-set o’r awdurdodau cymwys sydd â chyfrifoldebau penodol yn yr amgylchedd morol. Ar lawer o ACA morol, gan gynnwys Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, mae’r awdurdodau hyn yn cydweithio’n agos fel grŵp awdurdodau perthnasol.

Yr Awdurdodau Perthnasol ar gyfer Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yw:

Cyngor Abertawe
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Penfro
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Awdurdod Harbwr Saundersfoot
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ’r Drindod
Dŵr Cymru

Mae’n hynod bwysig bod y sefydliadau hyn yn cydweithio, gan fod yr amgylchedd morol yn gyfrifoldeb a rennir. Mae awdurdodau perthnasol Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cyfarfod fel gweithgor bob pedwar i chwe mis. Drwy gydweithio, gallwn rannu ein syniadau a’n gwybodaeth ar draws y safle, sy’n helpu i sicrhau yr ymdrinir ag unrhyw faterion rheoli yn effeithiol ac yn gyson.

Cynllun rheoli

Mae’r Awdurdodau Perthnasol wedi cydweithio i gynhyrchu Cynllun Rheoli ar gyfer yr SME. Nod y Cynllun Rheoli yw nodi’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn diogelu nodweddion yr SME. Mae’r Cynllun Rheoli wedi’i ategu gan Amcanion Cadwraeth y safleoedd, a gynhyrchwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r Cynllun Rheoli wedi’i gysylltu â Chronfa Ddata Gweithredoedd CNC, sy’n rhestru camau gweithredu ar gyfer pob Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru. Mae’r Cynllun Rheoli yn ategu’r gronfa ddata trwy ddarparu cyd-destun a rhesymeg ar gyfer y camau gweithredu a nodwyd. Mae hefyd yn cynnwys yr holl gamau gweithredu sydd eu hangen i gynnal rheolaeth safle, megis addysg, codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu.

Defnyddir camau gweithredu o’r Cynllun Rheoli a’r Gronfa Ddata Gweithredoedd i greu rhaglen waith ar gyfer y safle ac yna mae hyn yn pennu pa brosiectau sydd eu hangen.

Mae’r cynllun rheoli yn gweithredu fel fframwaith, gan ddarparu gwybodaeth am y mentrau sydd eisoes ar waith ar gyfer rheoli gwerth y safle o ran cadwraeth. Ei rôl yw sicrhau bod mesurau rheoli yn ddigonol i gyflawni’r nodau cadwraeth ac i amlygu bylchau lle gallai fod angen rheolaeth ychwanegol. Dim ond hwyluso’r gwaith rheoli a wneir gan y sefydliadau a’r mentrau presennol sy’n gweithredu o amgylch y safle, y mae’r cynllun rheoli. Y bwriad yw galluogi esblygiad yn rheolaeth y safle, er mwyn adlewyrchu’r amodau a’r mentrau cyfredol; mae hyn yn golygu y bydd angen diweddaru’r cynllun rheoli’n rheolaidd.

Tîm y Safle Morol Ewropeaidd

Mae Swyddog yr ACA yn gweithio i’r Grŵp Awdurdodau Perthnasol. Rôl y Swyddog ACA yw cydlynu rheolaeth yr ACA. Mae hyn yn cynnwys:

  • Datblygu, sicrhau cyllid a rheoli prosiectau i leihau effeithiau ar y safle, gan weithio tuag at gyflwr ffafriol
  • Cynhyrchu, adolygu a diweddaru dogfennau rheoli safleoedd
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Cynrychioli safleoedd ar lefel genedlaethol/rhwydwaith
  • Darparu’r ysgrifenyddiaeth i’r grŵp awdurdodau perthnasol

Am ragor o wybodaeth am yr ACA a’ch amgylchedd morol lleol, cysylltwch â’r Swyddog ACA.