Llysywennod pendoll yr afon a’r môr
Mae llysywennod yn fertebratau cyntefig sydd â cheg nodedig ar gyfer sugno, yn hytrach na genau.
Mae llysywen bendoll yr afon Lampetra fluviatilis wedi’i dynodi’n nodwedd gymhwysol o ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd gan fod yr ardal yn cael ei hystyried yn llwybr mudo arfordirol pwysig neu’n fan bwydo i’r rhywogaeth hon, ac oherwydd ei bod wrth ymyl safle dŵr croyw pwysig i’r rhywogaeth (ACA Afon Tywi). Efallai bod afonydd perthnasol eraill sy’n cyfrannu at boblogaeth yr ACA. Yn gyffredinol, credir fod llysywen bendoll yr afon yn gyffredin yn yr ACA a’r afonydd silio perthnasol i fyny’r afon.
Dynodwyd llysywen bendoll y môr Petromyzon marinus yn nodwedd gymhwysol yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, gan fod yr ardal yn cael ei hystyried yn llwybr mudo arfordirol pwysig neu’n fan bwydo i’r rhywogaeth hon, ac oherwydd ei bod wrth ymyl safle dŵr croyw pwysig i’r rhywogaeth (ACA Afon Tywi). Efallai bod afonydd perthnasol eraill sy’n cyfrannu at boblogaeth yr ACA. Yn gyffredinol, mae niferoedd llysywen bendoll y môr sydd yn yr Afon Tywi yn y miloedd, ac mae llawer o’r dalgylch yn addas ar gyfer silio ac yn hawdd ei gyrraedd.

