Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio fymryn drwy’r amser gan ddŵr y môr

Mae’r banciau tywod, sy’n nodwedd o ACA Caerfyrddin a’r Aberoedd, yn cynnwys un banc tywod o’r enw Cefnen Helwick, sydd wedi’i lleoli i’r de o Ben Pyrod. Mae Cefnen Helwick yn fanc tywod bas, islanwol sydd hefyd yn llinol. Mae hyn yn anarferol gan ei fod yn un o’r rhai sydd fwyaf agored i effeithiau’r tonnau a’r llanw, o holl fanciau tywod Cymru. Yn bennaf, tywod mân canolig yw gwaddodion gwely’r môr yn ardal Cefnen Helwick. Mae’r tywod mân hwn hefyd yn unffurf ac mae unai’n cynnwys fawr ddim deunydd organig neu ddim deunydd organig o gwbl.  
 
Mae’r cymunedau anifeiliaid a geir yng Nghefnen Helwick neu ar ei glan yn nodweddiadol o dywod a graean symudol yn bennaf, ac eithrio’r cymunedau i’r de o’r gefnen. Mae llawer o rywogaethau’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser wedi’u claddu’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn y gwaddod. Mwydod gwrychog sydd amlycaf yn y cymunedau. Yn y banciau tywod, gwelir cynnydd yn y cyfoeth o rywogaethau mewn dŵr dyfnach, lle mae’r gwaddodion yn fwy sefydlog. Mae pysgod fel y torbwt, lleden lefn a gwyniad môr a rhywogaethau sy’n tyllu e.e. llymrïen, yn defnyddio Cefnen Helwick ar gyfer silio ac fel meithrinfa a mannau bwydo.
Mae llamhidyddion yn amlwg ar hyd Sianel Helwick, tua’r dwyrain o Ben Pyrod. Mae heidiau o ddolffiniaid cyffredin pig byr yn ymwelwyr yn ystod yr haf rhwng Pen Pyrod a Chefnen Helwick, ynghyd â niferoedd mawr o adar drycin Manaw a huganod sy’n plymio.

Map o nodwedd y banciau tywod yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd.

Map wedi’i ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.