Dyfrgi Ewrasiaidd

Mae dyfrgwn yn rhywogaeth symudol sy’n teithio rhwng safleoedd er mwyn gorffwys, chwilota am fwyd a bridio dros diriogaethau cartref eang. Mae gan ddyfrgwn gwrywaidd diriogaethau cartref mwy nag sydd gan ddyfrgwn benywaidd. Yng Nghymru, mae dyfrgwn wedi cael eu monitro gan Arolwg Dyfrgwn Cymru ers y 1970au. Mae dyfrgwn sy’n bresennol yn yr ACA yn rhan o boblogaeth ehangach sy’n byw o amgylch cynefinoedd d诺r croyw o amgylch Bae Caerfyrddin. Nid yw鈥檙 boblogaeth ddyfrgwn hon wedi’i hynysu’n llwyr, gan ei bod yn ymestyn ymhellach i ffwrdd. Hefyd mae symudiadau a chyfnewid rhwng poblogaeth ddyfrgwn yr ACA a鈥檙 boblogaeth yn y cynefinoedd d诺r croyw ehangach.

Mae鈥檔 hysbys fod y cynefin arfordirol yn yr ACA yn bwysig i ddyfrgwn o ran chwilota am fwyd a gorffwys, teithio rhwng safleoedd ac fel rhodfa fynediad i’w prif gynefin i fyny’r afon. Felly, mae’n bwysig cynnal ansawdd a swyddogaeth y cynefin o fewn ac o amgylch yr ACA.