Salicornia a phlanhigion eraill sy鈥檔 cytrefu mewn llaid a thywod

Mae Salicornia a phlanhigion unflwydd eraill sy’n cytrefu mewn llaid a thywod yn gymuned o blanhigion morfa heli arloesol. Mae鈥檙 rhain yn cytrefu mewn llaid a gwastadeddau tywod rhynglanwol, mewn ardaloedd sydd wedi’u diogelu rhag effeithiau cryf y tonnau. Mae’r morfa heli arloesol hwn yn rhagflaenydd pwysig i ddatblygiad llystyfiant morfa heli mwy sefydlog. Mae Salicornia a phlanhigion unflwydd eraill sy’n cytrefu mewn llaid a thywod yn datblygu yn rhannau isaf y morfa heli, lle mae’r planhigion dan dd诺r yn aml oherwydd y llanw. Gall hefyd gytrefu ar ochrau cilfachau agored, mewn pantiau o fewn morfeydd heli, yn ogystal ag ardaloedd o forfeydd heli uwch yr amharwyd arnynt.

Mae鈥檙 nodwedd Salicornia yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cynnwys Salicornia o aberoedd Cilfach Tywyn, Llwchwr ac aberoedd y Tair Afon. Mesurwyd maint gwaelodlin y Salicornia yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd a chanfod ei bod yn mesur 34.14 hectar (2003). Fodd bynnag, ni ellir cyfrifo maint presennol y Salicornia gan nad oes mapio cyfoes.

Mae鈥檙 nodwedd Salicornia yn forfa arloesol sy’n datblygu ar laid a gwastadeddau tywod rhynglanwol mewn ardaloedd sydd wedi’u hamddiffyn rhag effeithiau cryf y tonnau ag sydd hefyd yn ddigon uchel i alluogi cytrefiad planhigion unflwydd. Mae mwyafrif y nodwedd Salicornia hon yn cael ei dominyddu gan Lyrlys Salicornia sp., fodd bynnag, gall clystyrau o forfa arloesol hefyd gael eu dominyddu gan Helys unflwydd Suaeda maritima, sy’n llawer llai cyffredin.

Mae Salicornia yn gymharol brin yng Nghilfach Tywyn, ond mae llawer ohono ar y corsydd o Landim么r i Lanrhidian, lle mae clystyrau sylweddol yn ffurfio dilyniannau da rhwng morfa arloesol a dolydd heli’r Iwerydd. Mae’r cymunedau hyn yn brin o fewn rhanbarth y Tair Afon, ond mae clystyrau nodweddiadol bach o Salicornia yn bodoli ar y Taf a’r Gwendraeth.