Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bae Caerfyrddin

AGA Bae Caerfyrddin oedd yr AGA lwyr forol gyntaf yn y DU. Mae’n safle nodwedd sengl, a ddynodwyd ym mis Mehefin 2003, ar gyfer y f么r-hwyaden ddu gyffredin, Melanitta nigra yn unig.

Mae hwyaid duon cyffredin i鈥檞 gweld yn fyd-eang yn y parthau sy鈥檔 cynnwys Gwlad yr I芒, Prydain a Sgandinafia gam ymestyn tua’r dwyrain ac ar draws Siberia a Rwsia arctig i arfordir yr Iwerydd yng Ngogledd America. Yn Ewrop, mae’r hwyaid yn mudo o safleoedd bridio haf yng Ngwlad yr I芒, Sgandinafia a Rwsia arctig cyn belled i’r de 芒 Phenrhyn Iberia a chyn belled 芒 Gogledd Affrica ar adegau, lle maent yn gaeafu fesul heidiau mewn dyfroedd bas, cysgodol. Defnyddir Bae Caerfyrddin yn bennaf gan yr adar hyn fel man ail-lenwi a gorffwys yn rhan o鈥檙 mudo hyn, ond gall rhai adar aeafu yma hefyd.

Nid yn unig y mae hwyaid duon cyffredin wedi’u gwarchod fel rhywogaeth fudol o dan Gyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd, maent hefyd wedi’u rhestru i’w gwarchod yng Nghonfensiwn Bern a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad y DU 1981 ac maent yn rhywogaeth Adran 7 sydd o bwys mawr yng Nghymru.

Yn y DU, mae’r hwyaden ddu gyffredin yn cael ei chydnabod fel rhywogaeth sydd dan fygythiad cenedlaethol. Mae mwy na 50% o’r boblogaeth nad yw’n bridio i’w chael mewn llai na deg safle ac ystyrir Bae Caerfyrddin fel yr un pwysicaf.

Ar unrhyw adeg, mae dosbarthiad yr hwyaden ddu yn y Bae yn adlewyrchu dwysedd yr adnoddau bwyd sydd ar gael. Mae鈥檙 adnoddau bwyd hyn yn amrywiol iawn ac yn dibynnu ar ba mor niferus yw鈥檙 gwahanol rywogaethau ysglyfaeth o flwyddyn i flwyddyn a ble mae鈥檙 rhain ar gael. Mae鈥檙 ardaloedd bwydo mwyaf cyson yn rai sydd ar y m么r gyferbyn a thraethau Amroth a Phen-bre ac weithiau, Bae Rhosili.

Rhywogaethau sydd o ddiddordeb, ond nad ydynt yn gymwys ar y safle yw’r trochydd gyddfgoch Gavia stellata, m么r-hwyaden y Gogledd Melanitta fusca, yr hwyaden fwythblu Somateria mollissima ac aderyn drycin Manaw Puffinus puffinus.

Mae’r safle hwn yn gorgyffwrdd yn sylweddol ag ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd.

Gwybodaeth bellach:

Mae taflen ddata’r DU ar gyfer AGA Bae Caerfyrddin ar gael yma.