Cilfachau a baeau mawr bas

Mae cilfachau a baeau mawr bas yn gilfachau mawr ar hyd yr arfordir. Yn gyffredinol, maent yn fwy cysgodol rhag effeithiau鈥檙 tonnau na’r arfordir agored. Maent yn gymharol fas (ac yn cynnwys d诺r sy鈥檔 llai na 30m dros y rhan fwyaf o’r ardal), ac yn gyffredinol mae ganddynt ddylanwad d诺r croyw sy鈥檔 llawer is o’i gymharu ag aberoedd. Maent yn frith o gynefinoedd islanwol a rhynglanwol cyd-ddibynnol.
Bae Caerfyrddin ei hun yw鈥檙 nodwedd gilfachau a baeau bas mawr yn ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd. Mae Bae Caerfyrddin yn fae bas helaeth sydd yn cynnwys gwaddodion meddal yn bennaf ac mae iddo derfynau o frigiadau creigiog yn rhannol. Mae’n ymestyn o Ddinbych-y-pysgod ac Ynys B欧r yn y Gorllewin i Ben Pyrod ar Benrhyn G诺yr yn y dwyrain.
Ledled y bae, mae鈥檙 amodau ffisegol yn amrywio’n sylweddol. Mae ei halwynedd yn amrywio o halwynedd isel (wrth yr aberoedd) i fod yn hollol forol. Mae graddiannau effaith y tonnau yn amrywio o gysgodol i agored. Mae llanwau cryf yn ysgubo pentiroedd agored, tra bod ardaloedd eraill wedi’u cysgodi rhag ceryntau. Mae amrywiaeth eang yn y mathau o welyau’r m么r, gan gynnwys llaid, tywod a chraig, er bod y rhan fwyaf o wely’r m么r yn dywodlyd. Mae’r gwaddod yn cynnal nifer fawr o rywogaethau, gan gynnwys molysgiaid deuglawr, mwydod, draenogod m么r sy鈥檔 tyllu, s锚r mawr brau a s锚r y tywod.