Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Ramsar Cilfach Tywyn

Mae aber mawr Cilfach Tywyn yn cynnwys ardaloedd helaeth o dywod rhynglanwol a gwastadeddau llaid. Mae hefyd yn cynnwys yr ardal fwyaf o forfa heli di-fwlch yng Nghymru (22 cilomedr sgw芒r). Mae Cilfach Tywyn yn cynnal nifer o adar gwyllt sy鈥檔 gaeafu ac adar hirgoes sy’n bwydo yn y morfeydd heli ac ar yr ardaloedd rhynglanwol. Mae鈥檙 nifeoedd hyn o bwys rhyngwladol. Y safle yw’r aber gyfan bwysicaf yng Nghymru ar gyfer adar d诺r sy’n gaeafu ac mae’n arbennig o arwyddocaol i biod m么r.

Dynodwyd Cilfach Tywyn yn AGA ym 1992 am ei bod yn cynnal 1% neu fwy o boblogaeth fioddaearyddol y rhywogaethau mudol canlynol yn rheolaidd: y pibydd, Calidris canutus; y bioden f么r, Haematopus ostralegus; y pibydd coesgoch Tringa totanus; a’r hwydaen lostfain, Anas acuta.

Mae’r safle hefyd yn cynnal poblogaethau gaeafu o’r rhywogaethau adar d诺r mudol canlynol: pibydd y mawn, y gylfinir, cwtiad llwyd, chwiwell, hwyaden yr eithin, hwyaden lydanbig, corhwyaden. Mae鈥檙 rhain o bwys rhyngwladol neu genedlaethol.

Ceir amrywiadau mawr yn y llanw yn yr aber (tua 8m), a chanlyniad hyn yw datgeliad llawer iawn o waddodion rhynglanwol yn rheolaidd. Mae’r rhain yn dywodlyd yn bennaf, ond mae is-haenau lleidiog hefyd i’w cael mewn ardaloedd mwy cysgodol. Mae’r cymysgedd o gynefinoedd yn darparu mannau bwydo a gorffwys pwysig i adar. Mewn mannau, mae’r gwastadeddau llaid a thywod helaeth yn cynnal poblogaethau sylweddol o rywogaethau morol di-asgwrn-cefn, sy’n darparu ffynhonnell fwyd bwysig i’r niferoedd mawr o adar d诺r sy’n gaeafu yno.

Gwybodaeth bellach:

Mae crynodeb o鈥檙 wybodaeth am y safle ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, yma.

Ramsar

Mae’r safle hefyd wedi’i ddynodi’n wlyptir Ramsar o bwysigrwydd rhyngwladol o dan Gonfensiwn Gwlyptiroedd 1971, ar gyfer yr un rhywogaethau adar ag AGA Cilfach Tywyn. Fodd bynnag, mae’r dynodiad gwlyptir hefyd yn rhestru rhywogaethau o blanhigion, infertebratau, pysgod a rhywogaethau adar eraill fel rhai o bwys.

Gwybodaeth bellach:

Gellir gweld taflenni gwybodaeth Ramsar ar gyfer Cilfach Tywyn drwy gael mynediad at gronfa ddata Ramsar yma a chronfa ddata鈥檙 Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yma.

Mae rhagor o wybodaeth am gonfensiwn Ramsar a safleoedd Ramsar y DU ar gael yma.