Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Caerfyrddin ac Aberoedd

Mae ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd yn cwmpasu ardal o Ynys Catrin yn y gorllewin at fan sydd ychydig i’r gorllewin o Drwyn Oxwich yn y dwyrain. Mae’n safle mawr, sy’n cwmpasu aber y Tair Afon (Afonydd Taf, Tywi a Gwendraeth), Cilfach Tywyn ac Aber Llwchwr, a rhannau gogleddol a gorllewinol Penrhyn G诺yr.

Dynodwyd yr ACA yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2004 am fod ynddo enghreifftiau Ewropeaidd rhagorol o chwe chynefin a pum rhywogaeth a restrir yng Nghyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE yn nodweddion cadwraeth o ddiddordeb. Y rhain yw:

Cynefinoedd:

  • Aberoedd
  • Cilfachau a baeau mawr bas
  • Dolydd heli鈥檙 Iwerydd
  • Salicornia a phlanhigion eraill sy鈥檔 cytrefu mewn llaid a thywod
  • Gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod nad ydynt wedi’u gorchuddio gan dd诺r y m么r ar lanw isel
  • Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio fymryn drwy鈥檙 amser gan dd诺r y m么r

Rhywogaethau:

  • Herlyn Alosa alosa
  • Gwangen Alosa fallax
  • Llysywen bendoll yr afon Lampetra fluviatilis
  • lysywen bendoll y m么r Petromyzon marinus
  • Dyfrgi Ewrasiaidd Lutra lutra

Mae鈥檔 cynnwys ardaloedd helaeth o wastadeddau llaid a gwastadeddau tywod rhynglanwol ac mae cregyn deuglawr yn amlwg dros ben mewn ardaloedd eang o’r gwastadeddau hyn.

Mae’r ACA yn cynnwys Cefnen Helwick, sef cefnen o dywod islanwol sy鈥檔 fas ac yn llinol. Mae鈥檙 gefnen hon yn anarferol gan ei bod yn agored iawn i effeithiau鈥檙 tonnau a鈥檙 llanw.

Mae Cilfach Tywyn a system y Tair Afon yn darparu llwybr mudo i salmonidau, llysywod pendoll a gwangod.

Gwybodaeth bellach:

Mae crynodeb o鈥檙 wybodaeth am y safle ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, yma.

Mae map cryno sy’n dangos dosbarthiad dangosol nodweddion y cynefin ar gael yma.